Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 6
Gorffennaf 2016
Amser y
cyfarfod: 13.00
(120 munud)
NDM6060 Elin Jones (Ceredigion)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU
2016/2017.
Rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn
unig):
https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2016
Dogfennau ategol:
Briff Ymchwil: Araith y
Frenhines
Datganiad
Ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.
Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(15 munud)
(60 munud)
NDM6058
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod gan gwmni dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn methu.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod rôl hanfodol y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre i economi Cymru a'r holl Deyrnas Unedig.
2. Yn cydnabod gwaith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gynorthwyo TATA i ganfod prynwr credadwy i waith dur Port Talbot.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i lunio strategaeth i sicrhau hyfywedd a photensial hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
4. Yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio â gwledydd eraill yn Ewrop ac ar draws y byd i sicrhau cytundebau masnach sydd o fantais i ddiwydiant dur Cymru.
Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn methu.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl 'credu' a rhoi yn ei le:
'ei bod yn bwysicach nag erioed, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE, bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant gwneud dur yng Nghymru.'
Gwelliant 4 -
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod
ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
Gwelliant 5
-
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i
hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi
Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael
ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael
â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall
canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi
Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.
Gwelliant 6
-
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid
ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r
ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb
Ewropeaidd.
Gwelliant 7
-
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.
(0 munud)
NDM6059
Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Mae angen ein hundebau arnom fwy nag erioed
Edrych ar waith yr undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a chefnogaeth i undebau.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2016